Nissan Terrano rescue vehicle at Pistyll

About Us
Amdanom

Our location
Ein lleoliad

Team members
Aelodau'r tîm


Rescue equipment
Offer achub

About HM Coastguard
Mwy am Wylwyr y Glannau


Recent callouts
Galwadau diweddar

News
Newyddion

Photo gallery
Oriel darluniau

Contact us
Cysylltwch â ni


Links
Cysylltiadau

Site Map
Cynllun o'r safle

  • Please note that this is not an official website.
  • Nodir yn garedig nad yw'r safle yma yn un swyddogol.


Coastguard banner


Team news - Newyddion y tîm

Updated January 2008                                                                                    
Diweddarwyd Ionawr 2008

More new equipment and other news
Mwy o offer newydd a newyddion arall
  • It's been another quiet end to the year as regards callouts, and in facts a much quieter year altogether than last year. It was probably due to the unfavourable weather during the summer which meant that there were fewer visitors to the area and those that did come did not spend much time at the beach, on the coast or in any sort of activity on the water.
  • One of our members, Dewi, spent some time as part of the Coastguard's response team helping out with the flooding in the Gloucester area.
  • Aled our newest recruit is settling in but is so tall that the Coastguard are having trouble finding uniform items that fit him!
  • All of the Coastguard teams throughout the U.K. that are involved in cliff rescue work are being issued with new rope rescue equipment. This equipment is more compatible with what is used in general rope rescue and rope access work rather than being specially made or adapted for coastguard use only. As a result, everyone in the team has to be trained in the use of this equipment before it can be used in real situations where the lives of people may be at risk. All of our sector managers have been on courses and will now pass on their knowledge to the teams involved. In the meantime we'll continue to use the tried and tested equipment to which we are used.
  • Not all Coastguard teams are rope rescue teams as it depends on the sort of coastline they are responsible for; some are purely search teams, others are mud rescue specialists and there are also some that have rescue boats in areas that are not covered by a RNLI lifeboat.

  • Unwaith eto daeth diwedd tawel i'r flwyddyn, ac i ddweud y gwir cawsom flwyddyn eithaf tawel yn gyfangwbl. 'Mae'n ymddangos fod llai o ymwelwyr i'r ardal yn ystod yr haf oherwydd y tywydd anffafriol ac nad oedd y rhai oedd yma wedi treulio cymaint o amser ar y traeth, o gwmpas yr arfordir nac mewn gwieithgareddau morwrol o unrhyw fath.
  • Treuliodd un o'n haelodau, Dewi, amser yn ardal Caerloyw adeg y llifogydd dinistriol fel aelod o dîm Gwylwyr y Glannau oedd yno yn cynorthwyo.
  • Mae Aled ein recriwt diweddaraf wedi dod yn rhan sefydlog o'r tîm erbyn hyn ond yn cael dipyn o drafferth i gael dillad iwnifform Gwylwyr y Glannau ddigon mawr i'w ffitio gan ei fod mor dal!
  • Cafwyd rhagor o offer newydd i bob tîm Gwylwyr y Glannau sydd yn ymwneud ac achub pobl oddiar gelltydd y môr. Mae'r offer yma yn debycach i'r offer a ddefnyddir gan sefydliadau eraill sy'n ymdrin ag achub neu weithio gyda rhaffau, yn hytrach nag offer wedi ei wneud yn arbennig neu wedi ei addasu ar gyfer Gwylwyr y Glannau yn unig. Fel canlyniad, bydd angen hyfforddi pawb ar sut i ddefnyddio'r offer yma cyn y gellid ei ddefnyddio mewn sefyllfa lle mae bywyd rhywun yn y fantol. Eisioes bu ein rheolwyr sector ar gyrsiau achub gyda rhaffau a byddant yn ein hyfforddi ni yn y sgiliau newydd angenrheidiol. Yn y cyfamser byddwn yn dal i ddefnyddio'r hen fath o offer a ydym wedi hen arfer ag ef.
  • Nid yw pob tîm Gwylwyr y Glannau yn dîm achub gyda rhaffau gan fod swydd y tîm yn dibynnu ar y math o arfordir maent yn gyfrifol amdano; mae rhai yn dimau chwilio, eraill yn dimau achub o fwd ac eraill gyda cychod achub lle nad oes bad achub RNLI ar gael.


New team member / Aelod newydd

  • Following a long and quiet winter period in the way of incidents,  things are beginning to get a little busier.   Tom has now left us and has been replaced by Aled from Tudweiliog.
  • Ar ol cyfnod distaw o ran galwadau dros fisoedd y gaeaf mae pethau'n dechrau prysuro.   Erbyn hyn mae Tom wedi gadael y tim ac 'rydym yn croesawu Aled o Dudweiliog yn ei le.

New equipment / Offer newydd
  • Training has  been continuing regularly and we now have some new equipment.   Probably the most significant is a new double capstan winch which is considerably stronger than our old single capstan one.   (The capstan is the drum around which the rope is wrapped to pull a casualty and a cliff man up the cliff face.) Having a double capstan means that two ropes can be recovered at the same time, one on each side of the winch.   The new winch, although still portable, is much heavier to carry so getting it to a cliff top in circumstances where our vehicle has to be left some distance away can be quite tiring for the team.  Because of this our station officer Gareth and deputy Alun devised a way of attaching a wheelbarrow wheel and handles to the winch which makes it a lot easier to move.  This has now been approved by HM Coastguard and I wonder if this may be taken up by other coastguard teams.  ( Does this mean that we will have to take a test to be an 'approved winch drivers'?!!!)
  • New double capstan winch       Carrying heavy winch
winch with wheel
  • Mae'r gaeaf yn rhoi cyfle i ni gynnal ymarferion a chael hyfforddiant pellach.  'Rydym wedi cael peth offer newydd a'r mwyaf amlwg yw wins gyda dau gapstan, un bob ochr.   (Y capstan yw math o ddrym ar ochr y wins sy'n troi ac yn tynnu'r rhaff  i godi claf ac achubwr i fynny gwyneb y graig).   Gellir tynnu dwy raff yr un pryd ar y wins newydd.   Un anfantais ydyw fod y wins newydd yn drymach o lawer na'r hen un a gall fod yn waith blinedig i'w chario gan o leiaf dau berson os na ellir mynd a'r cerbyd yn agos i'r man y dymunir gosod y wins.   Oherwydd hyn mae dau o'r tim, Gareth, ein swyddog mewn gofal ac Alun ei ddirprwy wedi dyfeisio ffordd i roi olwyn a dwy handlen berfa ar y wins fel y gellir ei phowlio yn hwylus gan un dyn.   Mae'r ddyfais yma wedi ei chymeradwyo gan y pen bobl yng Ngwylwyr y Glannau felly mae'n bosibl y bydd timau eraill yn defnyddio'r un syniad.  (Tybed a fydd angen prawf gyrru newydd ar gyfer y 'winsferfa' ?!!!!)

Course at Highcliffe / Cwrs yn Highcliffe
  • Emlyn has been on  a week long Station Officer/ Deputy course at the Coastguard Training Centre, Highcliffe, Dorset, which means that we now have three members who have attended this course.
  • Mae Emlyn wedi bod ar gwrs ar gyfer Swyddogion Mewn Gofal a Dirprwyon yng Nghanolfan Hyfforddi Gwylwyr y Glannau yn Highcliffe, swydd Dorset., sy'n golygu fod tri o'n haelodau wedi bod ar y cwrs yma.
Back to top   -   Yn ôl i'r brig
Presentation / Cyflwyno tystysgrif
  • On 27.1.07 we had a short ceremony at Porthdinllaen where our Sector Manager Derek Roberts presented a certificate of service to Sue, who left us a little while ago as reported on these pages.

Sue with leaving certificate
  • Ar 27.1.07 cawsom gyfarfod ym Mhorthdinllaen lle y cyflwynwyd Sue , cyn-aelod o'r tim, gyda thystysgrif o'i gwasanaeth yng Nhwylwyr y Glannau gan Reolwr Sector Tremadog, Derek Roberts.

Christmas Party / Parti Nadolig
  • We had a Christmas 'do' at the Lion Hotel in Tudweiliog where we had an excellent meal with plenty of liquid refreshment!
  • Party photo
  • Cawsom barti Nadolig yng Ngwesty'r Lion yn Nhudweiliog lle 'roedd y bwyd a'r diod at flas pawb!

Change of Name / Newid Enw   27.10.06

  • Following a review of the Auxiliary Coastguard Service it was decided to rename the service as the 'Coastguard Rescue Service' and Auxiliary Coastguards are now be called 'Coastguard Rescue Officers'.   Formerly known as the Auxiliary Coastguard Service when it worked in support of full time Coastguard Officers, the Coastguard Rescue Service is now an established front line UK emergency response service capable of undertaking cliff and mud rescues, coastal and inland searches, coastal and inshore surveillance tasks from well equipped response vehicles plus a range of other maritime safety tasks.
  • Yn dilyn adolygiad bu newid enw  'Gwasanaeth Cynorthwyol Gwylwyr y Glannau' i 'Gwasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau' a gelwir 'Gwylwyr Cynorthwyol' yn Swyddogion Achub Gwylwyr y Glannau'.   Fe'i galwyd yn wasanaeth cynorthwyol am ei fod o'r blaen yn cynorthwyo swyddogion llawn amser Gwylwyr y Glannau   Erbyn hyn mae'n wasanaeth achub sefydlog blaenllaw yn gallu  ymateb i alwadau brys drwy  ymgymryd gwaith achub ar greigiau neu mewn mwd,  gwaith chwilio ar yr arfordir neu yn fewndirol, gwyliadwraeth gyda'r glannau o gerbydau pwrpasol yn cynnwys offer eang, yn ogystal ag amrywiaeth o dasgau diogelwch mewn cyswllt morwrol.


Update / Diweddariad 30/10/06

  • It has been extremely quiet recently after a busy summer with a record number of call-outs so there isn't much to report.   Last month's exercise was a joint cliff exercise at Trefor with Llandwrog Coastguard Team.    Because of the nature of the coastal area they are responsible for, which is mainly  flat and sandy,  they are primarily a search team which means they do not have winching equipment but as we could call on them for back-up in the event of a cliff rescue incident they have to be fully conversant with the use of our gear.

Stretcher casualty recovery
  • Mae hi wedi bod yn eithriadol o ddistaw yn ddiweddar ar ôl hâf prysur gyda nifer y galwadau'n torri'r mwyafrif a dderbyniwyd o'r blaen.   Cafwyd ymarfer y mis diwethaf ynghyd a thîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog ar greigiau'r môr yn Nhrefor.   Yn wahanol i ni nid oes ganddynt offer winsio oherwydd y math o arfordir y maent yn gyfrifol amdano, sef traethau tywodlyd ar y mwyaf, ond gan fod angen iddynt allu ein cynorthwyo ni pe bae'r galw yna mae'n rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â'r offfer a'r technegau y byddwn ni'n ddefnyddio ar y creigiau.

Apology / Ymddiheuriad
  • Sorry if I've been rather slow updating the site lately but my computer has been suffering from a severe dose of virus / trojan horses.   As they say, the treatment was successful but the patient died!   After reformatting the hard drive all is now back to normal so I'll catch up with the reporting of incidents soon.
  • Mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi bod braidd yn araf yn diweddaru'r wefan yn yr wythnosau diwethaf ond cefais brofedigaeth yn y teulu.   Wel, mae'r wraig yn taeru fy mod i'n perthyn i'r cyfrifiadur yma gan gysidro faint o amser y byddai'n dreulio yn ei gwmni, ac yn anffodus bu iddo farw ar ôl dal dôs angheuol o firws.  Gobeithiaf ddal i fyny a phethau'n fuan rwan ar ôl ail-fformatio'r ddisg galed.


New team member / Aelod newydd

  • By now we have a new member in the team, bringing us back up to our full complement.   Tom is  a lecturer in normal life and we'll soon have his photo on the 'team sheet' with the rest of us.  

  • Erbyn hyn mae aelod newydd wedi ymuno â'r tîm gan ddod a ni yn ôl i'r nifer y dylai fod ganddom.   Darlithydd yw Tom yn ei waith arferol a bydd llun ohonno ar y wefan gyda gweddill y tîm cyn bo hir.



  • Next training dates:     Full team 0900 hrs Sunday 20th August 2006
  • Dyddiadau hyfforddi nesaf:   Tîm cyfan - 0900 y bore dydd Sul, 20fed o Awst, 2006
   

Sea Food Festival / Gwyl Bwyd Môr
  • Some of the team  were kept busy at the recent Llyn Sea Food Festival near the Pwllheli Marina where the Maritime and Coastguard Agency had a stand that was well attended.
  • Bu rhai o'r tîm yn ddiweddar yn cynrychioli'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau yng Ngwyl Bwyd Môr Llyn ger Hafan Pwllheli lle cafwyd nifer fawr o ymwelwyr i'r stondin.

  • Next training dates:     Full team 0900 hrs Sunday 16th. July, 2006
  • Dyddiadau hyfforddi nesaf:   Tîm cyfan - 0900 y bore dydd Sul, 16eg. o Orffennaf, 2006


Trip to Ynys Enlli / Siwrnai i Ynys Enlli  -  13/6/06

We were fortunate recently  to be offered a chance to join staff from Holyhead Rescue Co-Ordination Centre in a visit to Ynys Enlli (Bardsey Island).    We met at the marina in Pwllheli on Tuesday morning where we boarded the 'Highlander'.   A pleasant day followed in warm though overcast weather and we were able to enjoy the island's unique tranquility.

Walking to highest point of island  Group photo on Enlli

Cawsom gyfle yn ddiweddar i ymuno â chriw o Ganolfan Achub Gwylwyr y Glannau Caergybi ar ymweliad ag Ynys Enlli.  Ar ôl cyfarfod yn Hafan Pwllheli aethom drosodd  ar gwch 'Highlander' a cafwyd cyfle i grwydro'r ynys a phrofi ei llonyddwch arbennig ar ddiwrnod cynnes o Wanwyn.


Members qualify as 'First Responders' for Welsh Ambulance Service

Two of our team members have qualified and are actively on call as 'First Responders'.   As part of the First Responder scheme, volunteers are trained by the Welsh Ambulance Service to carry out basic life saving skills, recognition of cardiac conditions, cardio-pulmonary resuscitation (CPR) and the use of a defibrillator. The training is provided by the Welsh Ambulance Service who also provide the necessary support needed to carry out the role.   

Gareth and Alun (our station officer and deputy) have already been called out several times by the ambulance control room.
First Responder schemes are a valuable additional resource for communities in giving swift emergency help before an ambulance can arrive and do not in any way replace existing emergency ambulance services.
There is a shortage of 'First Responders' in our area and the ambulance service are looking for more people to train, so if this work appeals to you please contact them.  This is an excellent way of actively helping others in your comunity.
If you live in the Nefyn area and are interested in taking part please phone Alun on 01758 720024 (home) or 07815957212 (mobile).

Aelodau o'r tîm yn gwirfoddoli fel 'Ymatebwyr Cyntaf' i'r Gwasanaeth Ambiwlans'

Mae dau aelod o'r tîm wedi eu cymhwyso ac yn awr ar gael fel 'Ymatebwyr Cyntaf'.   Fel rhan o'r cynllun Ymatebwyr Cyntaf, mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn hyfforddi gwirfoddolwyr i gynnal sgiliau arbed bywyd sylfaenol, adnabod cyflyrau cardiaidd, adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibriliwr. Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n darparu'r hyfforddiant a hefyd y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.  
Mae Gareth ac Alun eisioes wedi cael eu galw allan gan y gwasanaeth ambiwlans i nifer o alwadau ac maent yn annog unrhyw un â diddordeb i gysylltu a'r gwasanaeth am fod prinder o wirfoddolwyr.
Mae cynlluniau Ymatebwyr Cyntaf yn adnodd ychwanegol gwerthfawr i gymunedau gan gynnig cymorth brys yn sydyn cyn i ambiwlans gyrraedd ac nid ydyn nhw mewn unrhyw fodd yn cymryd lle gwasanaethau ambiwlans brys presennol.   Dyma ffordd ymarferol ardderchog i wneud llês yn eich cymuned.
Os ydych yn byw yn ardal Nefyn ac eisieu mwy o wybodaeth cysylltwch ag Alun ar
01758 720024 (cartref) neu 07815957212 (symudol).


  • Next training dates:     Full team 0900 hrs Sunday 18th. June, 2006;   Radio Procedure for selected members - 1930 hrs Wednesday 14th. June, 2006.
  • Dyddiadau hyfforddi nesaf:   Tîm cyfan - 0900 y bore dydd Sul, 18fed. Mehefin;    Defnyddio Radio i rai aelodau - 1930 yr hwyr dydd Mercher 14eg. Mehefin, 2006.
Back to top   -   Yn ôl i'r brig

  • Alun has just returned from a week long Station Officer/ Deputy course at the Coastguard Training Centre, Highcliffe, Dorset.   He found it both useful and interesting.  We look forward to him passing on the latest seach and rescue technique developments at the next training session on Sunday 21.5.06.Alun and the Chief CoastguardRescue scenario Highcliffe
  • Mae Alun newydd ddychwelyd oddiar gwrs o wythnos yng Nghanolfan Hyfforddi Gwylwyr y Glannau yn Highcliffe, swydd Dorset.   Cwrs oedd i Swyddogion Mewn Gofal a Dirprwyon.  Edrychwn ymlaen i'r sesiwn hyfforddi nesaf ar ddydd Sul 21.5.06 pan y cawn glywed am y datblygiadau diweddaraf mewn technegau chwilio ac achub.
Back to top   -   Yn ôl i'r brig
  • Sue Foggarty (previously Kennedy) who has been with us on the team for a number of years has resigned because of family commitments.   We are sorry to see her go and will miss her valuable experience.
  • Mae Sue Foggarty (Kennedy o’r blaen) sydd wedi bod gyda ni am nifer o flynyddoedd wedi ymddiswyddo oherwydd dyletswyddau teuluol.  Byddwn yn ei cholli a dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol.
Back to top   -   Yn ôl i'r brig


  • Vacancies do occasionally arise in the team and with Sue's departure we are currently one member short.   We are at present looking for an enthusiastic person who would be available to be called out especially during the daytime period.  No previous experience neccessary!   Just get in touch with anyone from the team.
  • Mae un swydd wâg yn y tîm yn dilyn ymddiswyddiad Sue felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni gadewch i ni wybod.   Edrychwn am berson brwdfrydig fuasai ar gael i ymateb yn arbennig yn ystod y dydd pan fo eraill o'r tîm yn eu gwaith.   Peidiwch a phoeni am brofiad blaenorol - mae digon o hyfforddiant ar gael!  
Back to top   -   Yn ôl i'r brig
  • The team recently visited operations room at RCC Holyhead and ‘C’ Flight, 22 Squadron at RAF Valley where the Sea King SAR (search and rescue) helicopters are based.   We have newer members who had not been to either location before so it was a useful familiarization exercise.
  • Bu’r tîm yng nghanolfan cyd-drefnu achub arforol Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi yn ddiweddar a hefyd y ‘C Flight’ Sgwadron 22 ym Maes Awyr yr Awyrlu yn y Fali i weld yr hofrenyddion achub bywyd.   Gan fod  y rhai newydd ohonnom heb fod yn yr un o’r ddau le o’r blaen bu’n brofiad addysgiadol.
Back to top   -   Yn ôl i'r brig

HMCG roundel

Back to top   -   Yn ôl i'r brig