Rescue vehicle at Pistyll

About Us
Amdanom

Our location
Ein lleoliad

Team members
Aelodau'r tîm


Rescue equipment
Offer achub

About HM Coastguard
Mwy am Wylwyr y Glannau


Recent callouts
Galwadau diweddar

News
Newyddion


Photo gallery
Oriel darluniau

Contact us
Cysylltwch â ni

Links
Cysylltiadau

Site Map
Cynllun o'r safle

  • Please note that this is not an official website.
  • Nodir yn garedig nad yw'r safle yma yn un swyddogol.


Porthdinllaen Coastguard banner


Incidents   -   Galwadau

2005


To choose a different year click here   -   I ddewis blwyddyn wahanol cliciwch yma

31.12.05   1505

Called out to report of kite surfer in difficulty a quarter of a mile off Trwyn Nefyn.    We went to point and saw kite in water with no sign of anyone with it.   Porthdinllaen RNLI inflatable boat launched then offshore lifeboat to search for person in water.  We were subsequently approached by kite owner who had been unable to recover kite when it went out of control and had left it there while he went home to change.   He did not realize that he was the subject of a '999' call until he noticed the Coastguard vehicle with its blue lights flashing on the headland.   Back to top.

Galwyd ni allan oherwydd fod adroddiad fod brigdonnwr barcud mewn trafferthion tua chwarter milltir o Drwyn Nefyn.   Aethom i'r Trwyn a gweld y barcud yn y dwr ond dim golwg o unrhyw berson gerllaw.   Lansiwyd y cwch byrddio ac ynna bad achuballtraeth Porthdinllaen i chwilio am y brigdonnwr.   Ychydig yn hwyrach daeth dyn atom i ddweud mai ef oedd perchen y barcud a'i fod wedi ei adael yn y dwr pan aeth i drafferthion. Gwnaeth ei ffordd adref i newid heb sylweddoli ei fod yn destun galwad '999' nes gwelodd gerbyd Gwylwyr y Glannau gyda'r olau glas yn fflachio ar Drwyn Nefyn.    Yn ôl i'r brig


30.9.05   2010

Report of elderly man fallen on rocks at Morfa Nefyn beach.   Ambulance service on the way as well as SAR helicopter.  70 yr. old man found at Cerrig Gleision.   Team assisted winchman with stretcher and casualty was airlifted to Ysbytty Gwynedd.   Back to top.

Dyn mewn oed wedi disgyn ar greigiau ar draeth Morfa Nefyn.   'Roedd yr ambiwlans ar ei ffordd a hefyd hofrennydd o'r Fali.  Aethom i'r traeth a gweld dyn 70 oed ger Cerrig Gleision.   Rhoddwyd cymorth i roi'r dyn mewn estynnell  a winsiwyd y claf i'r hofrennydd a'i gyfleu i Ysbytty Gwynedd.   Yn ôl i'r brig

26.9.05   1126

Called to investigate report of yacht possibly in trouble one mile north of Trefor.   Porthdinllaen lifeboat called out. No sign of vessel and informant thought it may have sunk.  SAR helicopter called out and located vessel safe and well Caernarfon Bar.   Back to top.

Galwyd arnom i ymchwilio i adroddiad y gallai cwch hwylio fod mewn trafferthion i'r gogledd o Drefor.  Lansiwyd bad achub Porthdinllaen.   Ni welsom unrhyw olwg o'r cwch a gan fod yr hysbyswr wedi colli golwg arni hefyn tybiodd ei bod wedi suddo.   Galwyd hofrennydd o'r Fali a llwydddodd y criw ddarganfod fod y cwch hwylio yn ddiogel yng nghyffiniau Bar Caernarfon.   Yn ôl i'r brig


22.9.05   1310

Report of dog fallen down cliff near Cerrig Gleision, Morfa Nefyn, and owner unable to retrieve it.   When we arrived the dog had been safely retrieved by the owner’s son.      Back to top.   

Adroddiad for ci wedi disgyn i lawr yr allt ger Cerrig Gleision, Morfa Nefyn a'r perchennog yn methu mynd ato.   Erbyn i ni gyrraedd 'roedd y ci ynddiogel gan fod mab y perchennog wedi ei adfer.   Yn ôl i'r brig


5.9.05   1709

Called out following report of a woman injured on the clifftop somewhere in the Rhosgor/Cwmistir area.   She was located having suffered a broken ankle.   Ambulance service was called as well as SAR helicopter.   She was airlifted to Ysbyttty Gwynedd.     Back to top.

Galwyd ni i ddelio gyda dynes oedd wedi brifo rhywle ar ben yr allt  yng nghyffiniau Rhosgor neu Gwmistir.  Cawsom hyd iddi a gweld ei bod wedi torri ei ffer.   Galwyd am ambiwlans a hofrennydd o'r Fali a cludwyd hi i Ysbytty Gwynedd yn yr hofrennydd.     Yn ôl i'r brig


18.8.05   1832

Requested to assist ambulance with recovery of an injured woman on cliff near Porth Colmon.   The woman was located and we were able to take ambulance personnel to her in our 4WD.  We then transported her to the ambulance and she was removed to Ysbytty Gwynedd.     Back to top.

Cais gan y gwasanaeth ambiwlans am gymorth gyda dynes wedi brifo ar yr allt heb fod yn bell o Porth Colmon.  Cawsom hyd iddi  a cludwyd dynion yr ambiwlans ati  yn ein cerbyn ni gan nad oedd y tir yn addas i fynd a'r ambiwlans ati.   Cariwyd hi yn ein cerbyd ni i'r ambiwlans a aeth a hi i Ysbytty Gwynedd.   Yn ôl i'r brig


17.8.05    1804

Report of a dinghy being blown out to sea from Porth Iago.   Porthdinllaen lifeboat also called out.   Search had commenced when we were told that the vessel, an inflatable canoe, had been carried North out of the bay by the current but had fortunately come ashore a little further along the coast.  Adult occupants who were not wearing lifejackets were safe and well.      Back to top.

Adroddiad fod cwch bach aer yn cael ei chwythu allan i'r môr o Borth Iago.  Galwyd bad achub Porthdinllaen allan hefyd.   'Roeddem wedi dechrau chwilio pan ddarganfuwyd mai canŵ aer oedd y cwch a'i fod wedi dynny gan y llanw i'r gogledd allan o'r bae ond yn ffodus cariwyd ef i'r lan ychydig ymhellach ar hyd yr arfordir.   Dau o oedolion oedd yn y cwch heb siacedi achub ond yn iach a diogel.     Yn ôl i'r brig

13.8.05     0140

Called out following a '999' call by a young man that he was somewhere on Nefyn beach but was lost and disorientated.   We made our way there and carried out a search of Nefyn beach as far as y Wern which was unsuccessful.   Following enquiries the person was located safe and well at home in bed having found his way off the beach before we had arrived, having had to get up from our own beds.     Back to top.

Aethom allan yn dilyn galwad ffôn '999' gan ddyn ifanc yn dweud ei fod rhywle ar draeth Nefyn ond ei fod ar goll ac wedi drysu.   Chwiliwys traeth Nefyn i gyd cyn belled a Wern heb ei ddarganfod.   Yn dilyn ymchwiliadau darganfuwyd fod y person gartref yn iach a diogel yn ei wely ar ôl gwneud ei ffordd ei hun yno cyn i ni gyrraedd, a ninnau wedi gorfod codi o'n gwelyau i droi allan.    Yn ôl i'r brig

6.8.05   1904 

Following a report of a dinghy overdue back at Penllech beach in Llangwnnadl the Porthdinllaen lifeboat was launched and we made our way there in the 4WD.   Meanwhile the occupants of the dinghy whose engine had been swamped had managed to come ashore at Porth Ty Mawr, were safe and well, and one had walked the cliff top back to the caravan site where they were staying to let everyone know they were fine.    Back to top.

Ar ôl adroddiad fod cwch heb ddychwelyd yn yr amser priodol i draeth Penllech, Llangwnnadl,  lansiwyd bad achub Porthdinllaen ac aethom ni yno yn y cerbyd.   Yn y cyfamser 'roedd y rhai oedd yn y cwch wedi llwyddo cyrraedd y lan ym Mhorth Ty Mawr, Llanwnnadl ar ôl i don dorri dros y peiriant a'i diffodd.   Cerddodd un o'r criw ar hyd pen yr allt yn ôl i'r maes carafannau i adael i  bawb wybod eu bod yn iawn.   Yn ôl i'r brig

7.8.05   1111

Report of fishing vessel in difficulties off Trefor.   Porthdinllaen lifeboat launched.   Vessel had engine failure and was kept under observation by us on shore while being recovered by lifeboat with the crew of two safe and well.      Back to top.

Cwch pysgota mewn trafferthion gyferbyn a Threfor.   Lansiwyd bad achub Porthdinllaen.   'Roedd criw'r cwch wedi methu tanio'r peiriant ar ôl iddo ddiffodd.   Cadwyd llygad arnynt o'r cerbyn tra'r aeth y bad achub i'w cynorthwyo.   'Roedd y criw o ddau yn iach a diogel.      Yn ôl i'r brig

3.8.05   1325

The beach warden at Morfa Nefyn reported that a rubber dinghy with three persons on board was being blown out to sea from Morfa Nefyn Beach.   A fourth person had jumped out and had swam ashore towards Porthdinllaen beach.   Porthdinllaen lifeboat was launched and recovered the dinghy and occupants while we located the fourth person ashore.   All the youths were safe and well in spite of not having lifejackets, flares or oars.     Back to top.

Cawsom wybod gan warden traeth Morfa Nefyn fod cwch rwber gyda chriw o dri yn cael ei chwythu allan i'r môr o'r traeth.   'Roedd pedwerydd aelod o'r criw wedi neidio allan a nofio i'r lan tua thraeth Porthdinllaen.   Lansiwyd bad achub Porthdinllaen ac fe lwyddodd y criw gael gafael ar y cwch rwber a thynnu'r tri llanc allan ohonno, tra 'roeddem ni wedi llwyddo i ddod o hyd i'r pedwerydd lanc.   'Roeddynt i gyd yn iawn er nad oedd siacedi achub,  fflêr na rhwyfau yn y cwch bach.      Yn ôl i'r brig


30.7.05   2300

Investigated a report of a red flare in Morfa Nefyn / Cwmistir area.  We carried out a coastal search from Porthdinllaen to Porth Ysgaden while Porthdinllaen lifeboat searched off shore as far as Porth Colmon.    Nothing was found by 1.30 am when the search was called off.    Back to top.

Cafwyd adroddiad for fflêr goch wedi ei gweld i gyfeiriad Morfa Nefy/Cwmistir.   Bu rhaid i ni chwilio'r arfordir drwy gerdded o Borthdinllaen i Borth Ysgaden tra bo bad achub Porthdinllaen yn chwilio alltraeth cyn belled a Phorth Colmon.   Ni fu unrhyw arwydd pellach fod unrhyw un mewn argyfwng a bu rhaid darfod y chwilio am hanner awr wedi un.     Yn ôl i'r brig.

26.7.05    1830

On being paged for the second time that day we made our way to Morfa Nefyn beach to check a report of a speedboat in trouble near Trwyn Nefyn.   On arrival we found the craft whose engine had been flooded by a wave and whose owner had lost the bung from the bottom whilst trying to bale it out had been safely beached.   A tractor and launching trolley were called to remove the craft which was the same one involved in the earlier call-out.     Back to top.

Ar ôl i'r seinyddion ganu am yr ail waith y diwrnod hwn aethom i draeth Morfa Nefyn yn agos i Drwyn Nefyn i ymchwilio i adroddiad fod cwch brys mewn trafferthion.   Pan gyrhaeddom yna gwelsom fod y cwch yn ddiogel ar y tywod.   Yr oedd y peiriant wedi ei diffodd gan don ac wrth i'r gyrrwr geisio cael y dwr allan o'r cwch gollyngodd y bwng dros yr ochor a'i golli.   Gyrrwyd am dractor a threiler cwch i'w dynnu o'r traeth.   Hwn oedd yr union gwch y cawsom ein troi allan i chwilio amdano yn gynharach yn y dydd.   Yn ôl i'r brig.

23.7.05   1530

Speedboat with two occupants reported by parents to be two hours overdue back at Porthdinllaen.   We were paged but when we arrived the speedboat had just returned with occupants safe and well.      Back to top.

Adroddiad fod cwch brys ddwy awr dros yr amser y dylai fod wedi dychwelyd i Borthdinllaen.   Ar ôl mynd i lawr i'r traeth cawsom wybod gan rieni un o'r bechgyn ifanc oedd yn y cwch eu bod wedi dychwelyn yn ôl yn iach a diogel.     Yn ôl i'r brig

16.7.05   1650

Called out to Porth Ysgaden with report of two divers with possible ‘bends’ having been forced by loss of weight belt to re-surface without stops from a depth that required decompression procedure.   SAR helicopter was called and removed both divers to decompression chamber on Wirral.     Back to top.

Galwad i Borth Ysgaden ar ôl derbyn gwybodaeth ei bod yn debyg fod dau ddeifiwr yn dioddef o'r 'bends'.   'Roeddynt wedi codi o'r gwaelod yn rhy gyflym ar ôl i un ohonnynt golli ei wregys pwysau.   Galwyd hofrennydd o'r Fali ac aethpwyd a'r ddau ddeifar i siambr digywasgu yn Cilgwri, Lloegr.     Yn ôl i'r brig

16.7.05   1503

Called out at request of ambulance control to assist with casualty on Morfa Nefyn beach.   A woman had fallen on board a sailing dinghy and had suffered a leg injury.  She was carried in our mobile to the ambulance which could not safely come onto the beach and then on to Ysbytty Gwynedd. Back to top.

Cafwyd galwad i gynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans gyda person âg anaf ar draeth Morfa Nefyn.   'Roedd dynes wedi disgyn ar fwrdd cwch hwylio ac wedi brifo ei choes yn ddrwg.   Cariwyd hi yn ein cerbyd ni i'r ambiwlans gan na fedrai'r ambiwlans ddod ar y traeth.   Aethpwyd a hi i Ysbytty Gwynedd am driniaeth.   Yn ôl i'r brig

10.7.05    1450

Requested to assist ambulance with casualty at Wern beach.   6 year old boy walking along beach with family was carrying a fishing rod when hook swung and caught in the boy’s eye.  Removed to hospital by ambulance. Back to top.

Galwad gan y gwasanaeth ambiwlans i'w cynorthwyo ar draeth Wern gyda bachgen 6 oed.  'Roedd o'n cerdded gyda'i deulu ac yn cario gwialen bysgota pan fachodd bachyn o'r wialen yn ei lygad.   Aeth i'r ysbytty mewn ambiwlans.   Yn ôl i'r brig

26.6.05   1921

Following a radio ‘Mayday’ (distress) call received by Hollyhead Coastguard giving location as Porth Oer (Whistling Sands) we searched shore in that area.   Porthdinllaen lifeboat called out and a survey vessel in the area also responded.   Nothing was found and it was taken to be a hoax call.     Back to top.

Derbyniodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi alwad brys 'Mayday' ar y radio oddiwrth gwch yn rhoi ei lleoliad fel Porth Oer.   Aethom ni ynno i geisio ei gweld o'r lan a lansiwyd bad achub Porthdinllaen.   Cynigiwyd cefnogaeth hefyd gan long arolwg oedd yn y cyffiniau.   Bu'r bad achub a'r llong yn chwilio'r môr tra buom ninnau'n chwilio ar hyd yr arfordir heb unrhyw lwyddiant.  Penderfynwyd mai galwad dwyll ydoedd .    Yn ôl i'r brig.

15.6.05   1920

Paged to go to Ty Mawr beach, Edern, to an injured bullock which could not stand.   We called out a local  vet was unable at the time to determine the extent of the injury.   It was hauled on plywood sheets along the shingle beach to the base of the cliff by the team and then gradually hauled up using the sheets and one ton sand bags by the farmer’s tractor, with the vet keeping an eye on it.   (Unfortunately, several days later the bullock was still unable to stand and had to be put down.)   Back to top.

Galwyd ni i Borth Ty Mawr, Edern, i fustach oedd wedi brifo ac yn methu codi.   Galwyd milfeddyg yno ond ni allai ddarganfod pa mor ddrwg oedd anafiadau'r bustach.  Tynnwyd y bustach gan y tîm ar fyrddau o bren haenog ar hyd y traeth i sawdl yr allt yna i fyny'r llwybr creigiog gyda thractor ar ôl gosod y bustach mewn sach tywod un tunnell.   (Yn anffodus, ar ôl nifer o ddyddiau  'roedd y bustach yn dal yn yr un cyflwr ac fe fu rhaid ei ddifa.)     Yn ôl i'r brig

11.6.05   1443

Called to rescue a calf that had fallen over the cliff close to the Coastguard station.   The calf was uninjured and herded back to the field above the cliff by the team and the farmer. Back to top.

Galwad i achub llo oedd wedi disgyn i lawr gallt y môr yn agos i orsaf Gwylwyr y Glannau.   Nid oedd wedi brifo a gallodd y tîm a'r ffermwr ei hel yn ôl i fyny i'r cae.   Yn ôl i'r brig

9.6.05   2020

Paged by Holyhead MRCC to go to Porthdinllaen Lifeboat Station following report of 60 ft boat in serious trouble 15 miles north of Ynys Enlli (Bardsey Island).   Lifeboat and SAR helicopter attended and boat crew airlifted to hospital after the boat sank.   As there was nothing further we could we returned to Coastguard Station.     Back to top.

Galwad o ganolfan achub Caergybi i ni fynd i Orsaf Bad Achub Porthdinllaen gan fod Caergydi wedi derbyn neges radio fod cwch 60 troedfedd mewn trafferthion difrifol 15 milltir i'r gogledd o Ynys Enlli.   Aeth y bad achub a'r hofrennydd o'r Fali i'r fan a cludwyd y criw i Ysbytty Gwynedd ar ôl i'r cwch suddo.  Gan na allwn ni gynorthwyo fe ddychwelom i orsaf Gwylwyr y Glannau.    Yn ôl i'r brig

30.5.05   2310

Called out to assist Llandwrog Coastguard in coastal search for missing girl but cancelled when girl was located safe and well before we had left Porthdinllaen.       Back to top.

Galwyd ni allan gyda'r bwriad o gynorthwyo tîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog  i chwilio'r arfordir am eneth oedd ar goll ond canslwyd ni cyn i ni adael Porthdinllaen gan ei bod wedi ei darganfod yn ddiogel.   Yn ôl i'r brig

30.5.05   1242

Called to Trefor where two craft had broken down 2 miles off shore.   Porthdinllaen lifeboat called out and stood by as the two vessels were towed safely to Trefor by a third vessel. Back to top.

Galwyd ni i Trefor lle 'roedd dau gwch wedi torri i lawr dwy filltir o'r lan.   Aeth bad achub Porthdinllaen yno a bu'n cadw llygad ar bethau tra tynnwyd y ddau gwch i'r lan gan gwch arall.   Yn ôl i'r brig

25.5.05   1715

Paged to small craft being blown out to sea from Nefyn.   Porthdinllaen lifeboat also called and soon picked up the very cold male occupant of the small 6 ft. boat which was being swamped following engine failure.  He did not have any safety equipment and was considering abandoning the boat and swimming ashore.   It is probable that he would not have made it to the shore. Back to top.

Cawsom ein galw yn dilyn adroddiad fod cwch bychan yn cael ei chwythu allan o Fae Nefyn.   Galwyd y bad achub allan hefyd ac yn fuan gallwyd codi'r dyn o'r cwch plastig chwe troedfedd o hyd a oedd yn llenwi â dwr wedi i'r peiriant ddiffodd ar ôl i don dorri drosti.  Yr oedd y dyn yn oer iawn;  nid oedd ganddo unrhyw offer diogelwch ac 'roedd wedi cysidro ceisio nofio  i'r lan.   Mae'n debygol na fyddai wedi llwyddo.   Yn ôl i'r brig

30.4.05   1839

Request from ambulance control to assist with man who had broken ankle on the rocks below Trwyn Nefyn.   We set up cliff rescue equipment because of difficulty of recovery but the SAR helicopter arrived and was able to airlift the casualty to hospital.      Back to top.
Cais gan y gwasanaeth ambiwlans i'w cynorthwyo gyda dyn oedd wedi torri ei ffer ar y creigiau dan Drwyn Nefyn.   Gosodwyd offer achub yn ei lê yn barod gan fod y claf mewn lle anodd ei gyrraedd ond daeth hofrennydd o'r Fali a'i godi gyda wins yna ei gario i Ysbytty Gwynedd.   Yn ôl i'r brig

2.4.05   1800

Paged to investigate report of two girls missing at Traeth Penllech.   Cancelled as girls found safe and well before we had set out. Back to top.

Galwyd ni i chwilio am ddwy eneth ar goll yng nghyffiniau Traeth Penllech ond canslwyd ni cyn cychwyn allan gan fod y genethod wedi eu darganfod yn ddiogel.   Yn ôl i'r brig

28.2.05   2000

Report of unusual object found on beach near Parsal, Trefor.  Object collected, found not to be dangerous/suspicious and taken to Porthdinllaen Coastguard Station.   Back to top.

Adroddiad fod gwrthrych anhyffredin wedi ei ddarganfod ar y traeth ger Parsal, Trefor.   Aethom yno a gweld nad oedd yn berygl nac yn amheus ac aethpwyd ag ef i orsaf Gwylwyr y Glannau,  Porthdinllaen.   Yn ôl i'r brig

3.1.05   0020

Called out to investigate white flashing light reported about 6 miles off South Stack in direction of Ynys Enlli.   Observations made from Trwyn Porthdinllaen.  Nothing seen.   Possibly lighthouse on Enlli. Back to top.

Galwyd arnom i ymchwilio i adroddiad fod goleu gwyn yn fflachio tua 6 milltir o Ynys Lawd i gyfeiriad Ynys Enlli.   Aethom i Drwyn Porthdinllaen i geisio ei weld ond nid oedd golwg ohonno.   Tybed ai goleudy Enlli ydoedd?    Yn ôl i'r brig


HMCG roundel

Back to top   -   Yn ôl i'r brig