Rescue vehicle at Pistyll

About Us
Amdanom

Our location
Ein lleoliad

Team members
Aelodau'r tîm


Rescue equipment
Offer achub

About HM Coastguard
Mwy am Wylwyr y Glannau


Recent callouts
Galwadau diweddar

News
Newyddion


Photo gallery
Oriel darluniau

Contact us
Cysylltwch â ni

Links
Cysylltiadau

Site Map
Cynllun o'r safle

  • Please note that this is not an official website.
  • Nodir yn garedig nad yw'r safle yma yn un swyddogol.


Porthdinllaen Coastguard banner


Incidents   -   Galwadau

2007


To choose a different year click here   -   I ddewis blwyddyn wahanol cliciwch yma



4.10.07   2030
We received a report from a member of the public that he had seen a red flare in the direction of Porth Ysgaden.   We went there and searched the area but could not find anything out of the ordinary.   There were no other sightings of flares and as the visibility that night was extremely good and lights on the Irish coast  could be seen it was decided that a red light from there could possibly have been mistaken for a flare.
Back to top.

Cafwyd galwad gan aelod o'r cyhoedd ei fod wedi gweld fflêr goch o gyfeiriad Porth Ysgaden.   Aethom draw ond nid oedd unrhyw arwydd fod dim allan o'i le yno nac unlle arall o gwmpas. Ni welwyd 
fflêr arall o unrhyw fath.   'Roedd y noson yn un glir iawn gyda goleuadau o arfordir Iwerddon i'w gweld,  a tybiwyd mai un o'r rhain oedd wedi ei gamgymeryd amfflêr.
Yn ôl i'r brig.

18.9.07
It was reported that an orange survival suit had been seen on the shore at 'Edern Beach'.   We found that it was in Porth Bryn Gwydd and a search of that area was made to ascertain if any other items relating to the suit had been washed up onto the shore.  Nothing further was found and so the suit was removed and details passed to our control room at Holyhead Coastguard.
Back to top.

Cafwyd galwad for siwt goroesi lliw oren ar lan y môr yn 'Nhraeth Edern'.  Darganfyddwyd fod y siwt ym Mhorth Bryn Gwydd ac aethom ati i chwilio'r arfodir o gwmpas y porth am unrhyw beth arall a allai fod yn gysylltiedig a'r siwt.    Nid oedd golwg o unrhyw beth pellach felly aethom a't siwt oddi yno a rhoi'r manylion amdani i bencadlys Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi.
Yn ôl i'r brig.

8.9.07  
Report of missing divers at Porth Ysgaden.   On arrival it was ascertained that two men from a visiting divers' club had set out on a dive starting from the shore but had been carried out further by the tide than they had anticipated.   They had surfaced and shouted and waved to attract attention to their predicament.   Members of another diving club had seen them from the beach and had decided to help but were unable to start the engine of their inflatable boat so they then set out to paddle their boat to the two divers.  They were able to do so and picked up the divers before paddling the boat safely back again to the shore.  We met them on arrival and found that they were all well so no medical attention was required.
Back to top.

Cafwyd gwybodaeth fod deifwyr ar goll ym Mhorth Ysgaden.  Pan gyrhaeddom yno cawsom ar ddeall fod dau ddyn o glwb deifio oedd yn ymweld a'r ardal  wedi nofio o'r traeth ar ddeif ond wedi mynd i drafferthion pan gariodd y llanw hwy yn bellach o'r lan nad beth oeddynt wedi ei fwriadu.   Oddiar wyneb y môr gwaeddodd y ddau a chwifio eu breichiau am gymorth.   Gwelwyd hwy gan aelodau o glwb deifio arall oedd ar y traeth yn paratoi i fynd allan yn eu cwch rwber.  Yn anffodus ni fedrant gychwyn modur y cwch a bu rhaid iddynt badlo'r cwch allan at y deifwyr oedd mewn trafferth.    Codwyd y deifwyr i'r cwch a'i badlo'n raddol yn ôl i'r lan.   Aethom i gyfarfod y cwch ar y traeth a gwelwyd fod pawb yn iach heb angen unrhyw sylw meddygol.
Yn ôl i'r brig.


2.9.07   1350
Two of our team were on routine patrol when they were directed to observe a fishing vessel with a casualty  who had been recovered from the sea after falling overboard.  He had been in the water for some time and the crew were concerned about his condition so Porthdinllaen lifeboat was launched.   The vessel was sighted from our vehicle about two miles off Trwyn Llwyd near Porth Iago.   The casualty was transferred to the lifeboat and brought to the lifeboat station at Porthdinllaen where an ambulance was waiting.  He was treated at the scene by paramedics from the ambulance service.
Back to top.

'Roedd dau o'r tîm allan yn ein cerbyd achub pan gafwyd neges radio o Gaergybi i fynd i gadw llygad ar gwch pysgota.   Ar fwrdd y cwch pysgota 'roedd dyn wedi ei achub ar ôl iddo ddisgyn o'r cwch i'r môr.   'Roedd wedi bod yn y dwr am beth amser ac 'roedd y criw braidd yn bryderus am ei gyflwr felly lansiwyd bad achub Porthdinllaen.   Llwyddodd ein bechgyn ni weld y cwch tua dwy filltir oddiar Drwyn Llwyd ger Porth Iago.   Trosglwyddwyd y claf i'r bad achub a'i gludo'n ôl i orsaf bad achub Porthdinllaen lle 'roedd ambiwlans yn aros amdano.   Cafodd driniaeth yno gan barafeddygon y gwasanaeth ambiwlans.
Yn ôl i'r brig.


30.8.07   1010
A person at Morfa Nefyn beach became concerned about the safety of a person who had apparently left a bag of clothes and shoes on the beach.   On arrival we were relieved to discover that the owner was a visitor from Guernsey who was fit and well having been swimming in the sea for some time.  
Back to top.

'Roedd person ar draeth Morfa Nefyn yn bryderus fod niwed wedi digwydd i  rhywun a oedd wedi gadael  a bag o ddillad ac esgidiau ar y traeth.   Wedi i ni gyrraedd yno 'roeddem yn falch i ddarganfod mai ymwelwr oedd perchenog y bag ac yntau wedi bod yn  ymdrochi'n iach a dibryder yn y môr am beth amser.  
Yn ôl i'r brig.


29.8.07   1508
The team assisted the ambulance service with the evacuation of a 39 year old female who had collapsed on the coastal footpath at Nefyn.   She was taken to hospital by air ambulance.
Back to top.

Galwyd arnom i roi cymorth i'r gwasanaeth ambiwlans gyda dynes 39 mlwydd oed a oedd wedi ei tharo'n wael ac wedi disgyn i'r llawr ar lwybr yr arfordir yn Nefyn.   Aeth yr ambiwlans awyr a hi i'r ysbytty.
Yn ôl i'r brig.



27.8.97   1610
Report of a 6 year old child missing from Lifeboat Bay, Porthdinllaen.   Fortunately the child was located wandering on Morfa Nefyn beach before an organized seach was initiated.   The child had become disorientated and had thought the white houses on Morfa beach were those at Porthdinllaen.
Back to top.

Cawsom alwad fod plentyn chwech oed ar goll o'r traeth ger Gorsaf Bad Achub Porthdinllaen.   Yn ffodus darganfuwyd y plentyn yn crwydro ar draeth Morfa Nefyn ger y Bwlch cyn cychwyn chwiliad llawn.   'Roedd y plentyn wedi colli ei ffordd gan gamgymeryd y tai gerllaw am dai Porthdinllaen.
Yn ôl i'r brig.


26.8.07   1240
Called to Porthdinllaen Point where there was a speedboat in difficulties with four persons on board.   Porthdinllaen lifeboat was launched and the RAF Rescue helicopter was also on scene.  All persons were recovered from the water, with one needing medical attention.  This person was transferred to the helicopter which had landed on the nearby golf course and taken by helicopter to hospital in Bangor.   The speedboat which was mostly submerged was towed to safety by the lifeboat.   The occupants of the speedboat had been fishing off the point and when they tried to move off they found that they could not start the engine.  As the boat was drifting towards the rocks it was taken in tow by another boat but the tow line broke and the speedboat was swamped by a wave.  It would appears that only one person was wearing a life jacket.
Back to top.

Galwyd ni i Drwyn Porthdinllaen lle 'roedd cwch gwib a phedwar o bobl mewn trafferthion.   Lansiwyd bad achub Porthdinllaen ac 'roedd hofrennydd o'r Fali yno'n fuan iawn hefyd.   Achubwyd y pedwar o'r môr gan fod y cwch bron yn gyfangwbl dan y dwr.  Glaniodd yr hofrennydd ar y cwrs golff gerllaw a trosglwyddwyd un o'r pedwar i Ysbytty Gwynedd gan eu bod angen triniaeth meddygol pellach.   Llwyddodd y bad achub i gael lein i'r cwch gwib a'i dynnu i'r traeth.   'Roedd criw'r cwch gwib wedi bod yn pysgota ger Trwyn Porthdinllaen ond wedi methu a thanio'r injan i ddychwelyd.   Pan wnaethant ddechrau drifftio tuag at y creigiau mewn môr eitha' garw cawsant gymorth gan gwch arall a geisiodd eu tynnu i ddiogelwch, ond torrodd y lein a gorlifwyd y cwch gan don a dorrodd ar eu traws.  Ymddengys nad oedd ond un person yn gwisgo siaced achub.
Yn ôl i'r brig.


26.8.07  1545
Full team called to cliffs between Porth Oer (Whistling Sands) and Porth Iago where a family was becoming anxious about their dog which had wandered over the sea cliff.   When we arrived we saw that the dog, called 'Fosters' , was stuck on a ledge near the bottom of a steep100 foot (30 metre) rocky cliff.   By means of cliff rescue equipment  a member of the team was lowered down to the dog which was then retrieved by winch to the cliff top.   It seemed no worse for its mishap and was obviously pleased to be back with its owners.   Whether it fell or wandered down to the ledge we shall never know!
Back to top.

Galwyd y tîm i'r clogwyni rhwng Porth Oer a Phorth Iago lle 'roedd ci wedi crwydro o olwg ei berchenogion dros allt y môr.   Wedi cyrraedd yno gwelsom fod y ci, o'r enw 'Fosters' , ar silff bron yng ngwaelod creigiau serch o tua 100 troedfedd (30 metr) o uchder.   Trwy ddefnyddio offer achub,  gollyngwyd aelod o'r tîm ar râff i lawr y graig a llwyddodd gael gafael ar y ci.   Winsiwyd y ddau i fyny i ddiogelwch pen yr allt  ac 'roedd yn amlwg fod y ci yn falch iawn o ddychwelyd i'w berchenogion.   Ni ymddangosai damaid yn waeth ar ôl ei antur ond ni allai ddweud wrthym a oedd wedi disgyn neu wedi crwydro rhywsut i lawr yr allt!
Yn ôl i'r brig.

19.8.07   0931
Report of a vessel dragging its anchor in Porthdinllaen bay.   It was found to be a 42 foot yacht that seemed to be heading towards Morfa Nefyn beach, the owner being on shore at Porthdinllaen.   The RNLI launched its inflatable boarding boat with some of the lifeboat crew and the vessel's owner on board.  The vessel was recovered and temporarily secured to the lifeboat station moorings.
Back to top.

Cafwyd adroddiad fod cwch hwylio yn llusgo'i hangor ym Mae Porthdinllaen.   'Roedd yn gwch 42 troedfedd ac 'roedd ei pherchennog ar y lan.   Aeth rhai o griw bad achub Porthdinllaen allan gyda'r perchennog yn y cwch glanio.  Aethpwyd ar fwrdd y cwch hwylio a'i symud dros dro i angorfa'r bad achub.
Yn ôl i'r brig.

7.7.07  1403
Called to Porth Ysgaden where a diver had been reported missing.   Two divers had been undertaking a shore dive (i.e. not from a boat)  when they became separated.   The more experienced diver had surfaced and became anxious when there was no sign of the second diver.   He made his way back to his vehicle from where he contacted the Coastguard.   Fortunately, shortly after we arrived,  the missing diver was seen fit and well on nearby rocks.   She was checked over by a paramedic from the RAF helicopter which had just arrived.
Back to top.

Galwad i Borth Ysgaden yn dilyn adroddiad fod deifiwr ar goll.   'Roedd dau ddeifiwr wedi cychwyn gyda'i gilydd ar ddeif o'r lan yn hytrach nag oddiar gwch, yn agos i'r porth.   Wedi colli golwg o'u gilydd daeth un ohonnynt i'r wyneb.  Daeth yn bryderus am y llall ac ar ôl dychwelyd i'r lan cysylltodd â Gwylwyr y Glannau.  Yn ffodus, yn fuan ar ôl i ni gyrraedd Porth Ysgaden gwelwyd yr ail ddeifiwr ar y creigiau gerllaw.  'Roedd yn hollol iawn meddai gan fethu deall pam fod cymaint o ffwdan.   Glaniodd hofrennydd o'r Fali a cafodd parafeddyg olwg sydyn arni.
Yn ôl i'r brig.


28.6.07   0937
We were asked by Ambulance Control to assist with the evacuation of an injured child from one of the houses on the beach in Porthdinllaen.   The child was stretchered and transferred by ambulance to the air ambulance which had landed on the golf course nearby before being taken to Ysbytty Gwynedd.
Back to top.

Gofynodd y gwasanaeth ambiwlans am gymorth i symud plentyn a anafwyd o un o'r tai ar draeth Porthdinllaen.  Cludwyd y plentyn mewn ambiwlans i hofrennydd oedd wedi glanio ar y cwrs golff ac oddi yno i Ysbytty Gwynedd.
Yn ôl i'r brig.


22.6.07  1330

The full team was called to Nant Gwrtheyrn following a report that walkers had fallen and had sustained injuries.   On arriving there we found that one walker had reached the village and the other was still stranded on the scree slopes in the middle of the old quarry workings.   Both were German tourists walking the coastal path and had fallen after getting into difficulties when they tried to take a short cut through the quarry.   Two team members managed to reach the stranded walker who was bleeding from cuts on his face.   The RAF helicopter was also on scene in spite of low lying fog and  the casualty was lifted  from the scree slope to our vehicle  near Caffi Meinir from where he was taken to an ambulance waiting in the top car park.   After minor treatment it was found that the walkers had only superficial cuts and did not require further attention although they had had rather a fright.
Back to top.

Aeth y tîm i Nant Gwrtheyrn  yn dilyn galwad fod dau gerddwr wedi disgyn a brifo.  Wedi cyrraedd yno gwelwyd fod un cerddwr wedi cyrraedd Caffi Meinir ond fod y llall yn methu symud oddiar y sgri serth yn nghanol y chwarel.   Dau o ymwelwyr o'r Almaen oeddynt, yn cerdded rhan o lwybr arfordirol Llŷn ac wedi mynd i drafferthion a disgyn wrth geisio torri ar draws y chwarel yn hytrach na dilyn y llwybr i lawr i draeth y Nant.   Gallodd dau o'r tîm gyrraedd y cerddwr ar y sgri a oedd yn gwaedu o gwmpas ei wyneb.   Yr oedd braidd yn niwlog ond llwyddodd hofrennydd yr awyrlu o Fali godi'r claf  a'i gludo i'n cerbyd ger Caffi Meinir.  O'r fan honno aethpwyd ag ef i ambiwlans oedd yn aros  yn y maes parcio ym mhen y Nant.   Ar ôl triniaeth yn yr ambiwlans gwelwyd mai mân anafiadau oedd gan y cerddwyr ac nad oedd angen sylw pellach er eu bod wedi cael dipyn go lew o fraw.
Yn ôl i'r brig.

22.6.07  0030
Called out to investigate report of a flare sighted in the area of Porth Colmon area.  The area was searched but nothing untowards was found.
Back to top.

Galwyd ni allan yn dilyn galwad fod rhywun wedi gweld fflêr yng nghyffiniau Porth Colmon .   Ar ol chwilio'r ardal ni ddarganfuwyd unrhyw beth allan o'i le.
Yn ôl i'r brig.


22.5.07
The team was called out with other coastguard teams in Llyn to search for a missing person who was located that evening in our area.
Back to top.

Galwyd ni allan ynghyd a thimau eraill gwylwyr y glannau yn Llyn i chwilio am berson oedd ar goll ac a ddarganfuwyd y noson honno yn ein hardal ni.
Yn ôl i'r brig.

10.5.07 1100

Called to Morfa Nefyn beach to investigate a report of aircraft parts washed up.   It was found that they were more of the parts of the catamaran that had been washed up - see incident on 31.3.07.   These parts were also moved to a location above the reach of the tide.
Back to top.

Galwyd ni i draeth Morfa Nefyn i ymchilio i adroddiad fod rhannau o awyren wedi eu golchi i'r traeth.   Gwelwyd mai darnau eraill oeddynt o'r catamaran a olchwyd yno eisioes - gweler galwad 31.3.07.   Symudwyd y darnau yma hefyd o afael y llanw.
Yn ôl i'r brig.

22.4.07  1056

North Wales Ambulance control requested assistance in respect of  a call they had received regarding a woman who was suffering with chest pains on the Llyn Coastal Path near the farm of Berth Aur in Penllech.   When we arrived we found that the 65 year old woman had been walking the path with a group of ramblers.   She was lying on the ground part way down a steep grassy slope above the cliffs.   The air ambulance was grounded because of low visibility and the RAF helicopter was not available.   The woman was made comfortable and attended by two of our team members who are Ambulance First Responders.   An ambulance based at Blaenau Festiniog arrived at the farm and the crew were brought to the scene in a 4 WD vehicle as the terrain was judged unsuitable for the ambulance.  They gave medical attention to the woman who had to be carried up to level ground and transferred to the ambulance in our rescue vehicle.   She was subsequently taken to Ysbytty Gwynedd in Bangor.

Back to top.

Cawsom alwad i gynorthwyo gwasanaeth ambiwlans Gogledd Cymru gyda dynes oedd ar lwybr arfordir Llyn yn agos i fferm Berth Aur ym Mhenllech  gan ei bod yn dioddef poenau ar draws ei brest.   Aethom yno a darganfod dynes 65 oed oedd wedi bod yn cerdded gyda grwp o rodwyr.  'Roedd yn gorwedd ar y ddaear peth ffordd i lawr llethr glaswelltog serth uwchben  creigiau gallt y môr.   Nid oedd yr ambiwlans awyr yn gallu hedfan oherwydd niwl ac nid oedd hofrennydd yr awyrlu ar gael chwaith. Gwnaed y ddynes yn gyfforddus gan y tîm a oedd cynnwys dau aelod sydd hefyd yn Ymatebwyr Cyntaf  i'r gwasanaeth ambiwlans.   Daeth ambiwlans a leolir yn arferol ym Mlaenau Ffestiniog i fuarth y fferm a cludwyd y criw i safle'r claf mewn peiriant 4WD gan nad oedd y caeau yn addas i ambiwlans ddreifio arnynt.   Rhoddwyd gofal meddygol i'r ddynes cyn ei chario i fyny'r llethr glas ac yna'i throsglwyddo yn ein cerbyd ni i'r ambiwlans ac yna i Ysbytty Gwynedd.
Yn ôl i'r brig.

31.3.07  1407

It was reported that there were objects washed up on the beach at Cerrig Gleision, Morfa Nefyn beach.   On examination by coastguards they were identified as parts of a catamaran  hull that appeared to have been in the water for some time.   They were removed from the reach of the tide so that they would not be a danger to navigation or to bathers.
Back to top.

Cafwyd gwybodaeth fod rhywbeth wedi ei olchi i'r lan yng Ngherrig Gleision ar draeth Morfa Nefyn.   Aethom yno a gweld mai darnau o gwch catamaran oeddynt,  yn amlwg fod wedi bod yn y dwr am beth amser.   Symudwyd y darnau o ofal y llanw fel na fuasent yn creu perygl i gychod eraill nac i ymdrochwyr.
Yn ôl i'r brig.


HMCG roundel

Back to top   -   Yn ôl i'r brig