1915 Wednesday/ DydMercher 23.1.08
The
team was called out, as were Porthdinllaen Lifeboat and an RAF
helicopter, to assist the local police in a search for a man
missing from Nefyn. The man's family were very concerned about his
safety but he was found safe on the clifftop path between Nefyn and
Morfa Nefyn and was taken into the care of the police.
Back to top
Gofynnwyd
i ni, Bad Achub Porthdinllaen a hofrennydd o'r Fali gynorthwyo'r
heddlu lleol i chwilio am ddyn oedd ar goll o'i gartref yn Nefyn.
Pryderai ei deulu amdano ond darganfuwyd ef yn ddiogel ar
lwybr pen 'rallt môr rhwng Nefyn a Morfa Nefyn a cadwyd ef yng ngofal
yr heddlu.
Yn ôl i'r brig.
0020 Monday/Dydd Llun 22.1.08
We
were again asked by the police to assist them in a search for
a person missing from his home at Nefyn. There were fears
for his safety and so the lifeboat and RAF helicopter were also called
out. Following an extensive search of the area the man was
located by the helicopter crew on the cliffs between Nefyn and Morfa
Nefyn and because of his condition he was immediately removed by
helicopter to hospital at Bangor.
Back to top
Cawsom
alwad arall i gynorthwyo'r heddlu i chwilio am ddyn oedd ar goll o'i
gartref yn Nefyn. 'Roedd ei deulu yn bryderus iawn am ei
ddiogelwch a galwyd bad achub Porthdinllaen a hofrennydd o'r Fali i
chwilio hefyd. Ar ôl chwilio helaeth darganfyddodd criw'r
hofrennydd y dyn ar yr allt môr rhwng Nefyn a Morfa Nefyn ac aethant ag
ef yn syth i Ysbytty Gwynedd oherwydd ei gyflwr.
Yn ôl i'r brig.
2300 Saturday/Dydd Sadwrn 19.1.08
We were asked to assist the local police in an incident involving a 25 year old man on top of the cliffs at Nefyn Point. The man was subsequently removed by the police from the scene for his own safety.
Back to top
Cawsom
alwad i gynorthwyo'r heddlu lleol gyda dyn 25 mlwydd oed yn
dilyn digwyddiad ar ben gallt y môr ger Trwyn Nefyn. Cludwyd y
dyn oddi yno gan yr heddlu yn ddiweddarach oherwydd pryderon am ei
ddiogelwch.
Yn ôl i'r brig.
0019 22.1.08
Report of a missing person from Nefyn, possibly
suicidal. Search undertaken and the
missing person was located between Nefyn Point and Morfa Nefyn.
Back to top
Derbyniwyd adroddiad fod dyn ifanc ar goll o Nefyn a’i fod
yn dueddol o wneud niwed iddo’i hun. Ar ôl chwilio’r traeth fe’i darganfyddwyd
ar y llwybr rhwng Trwyn Nefyn a Morfa.
Yn ôl i'r brig.
1915 23.1.08
The same person was again reported missing. After a search he was located and found to
be safe and well.
Back to top
Aeth yr un person (uchod) ar goll eto. Cawsom hyd iddo’n
ddiogel a di-anaf.
Yn ôl i'r brig.
1300 19.2.08
The team were called to Trefor where we rescued a sheep from
a ledge on the sea cliff where it had apparently been stuck for some days.
Back to top
Galwyd ni i Trefor i achub dafad oedd yn methu symyd
oddiar silff ar glogwyni’r mor ers rhai dyddiau.
Yn ôl i'r brig.
1445 15.3.08
2 persons were reported to be in difficulty at Porth
Wen. Porthdinllaen Lifeboat was called
out to assist and their boarding boat picked up the two local teenagers aged 14
and16 years who had been fishing and had not realized that the tide was cutting
them off from the shore. They were
cold but uninjured.
Back to top
Cawsom adroddiad for dau berson mewn trafferthion ar graig
ym Mhorth Wen. Galwyd am gymorth Bad
Achub Porthdinllaen ac fe aethant a’r ddau fachgen ifanc lleol, 14 a 16 mlwydd
oed, oedd wedi bod yn pysgota heb sylweddoli fod y llanw’n dod i mewn ac yn eu
torri i ffwrdd oddiwrth y lan, i ddiogelwch cwt y Bad Achub. ’Roeddent braidd yn oer ond yn ddi-anaf.
Yn ôl i'r brig.
1320 27.4.08
Assisted the ambulance service with a 35 yr old man who had
suffered a fractured ankle after falling in Porth Cychod, adjacent to Porth
Ysgaden. The man, who was 6’4” and 20
stone, was carried into the air ambulance, which had landed on the beach, and
was then transferred to an ambulance on the fields nearby as fog at Ysbytty
Gwynedd made it impossible for the air ambulance to land there safely.
Back to top
Galwyd ni i gynorthwyo’r gwasanaeth ambiwlans gyda dyn 35
oed oedd wedi torri ei ffer ar ôl disgyn ym Mhorth Cychod, ger Porth
Ysgaden. Cariwyd y dyn, a oedd yn 6’4”
ac yn pwyso ugain stôn ,i hofrennydd oedd wedi glanio ar y traeth ac aeth ag ef
I gyfarfod ambiwlans ar gae gerllaw gan fod niwl yng nghyffiniau Ysbytty
Gwynedd yn ei gwneud yn amhosibl iddi lanio yno’n ddiogel.
Yn ôl i'r brig.
1614 28.4.08
Called out to take part in a major operation involving two
helicopters, lifeboats and other vessels, and a number of coastguard teams to
search for a Nefyn fisherman who was reported to be missing from his boat that
had been found unoccupied at sea off Trefor.
No sign of him was found despite an extensive search at sea and along
the shoreline.
Back to top
Galwyd arnom i chwilio am bysgotwr o Nefyn ar ôl i
bysgotwr arall ddarganfod nad oedd o ar ei gwch oedd allan ar y môr ym Mae
Caernarfon. Defnyddiwyd dwy hofrennydd,
badau achub a chychod eraill ynghyd â thimau o wylwyr y glannau mewn ymdrech i
ddod o hyd iddo ond ni chafwyd llwyddiant.
Yn ôl i'r brig.
29.4.08
The search commenced yesterday was resumed unsuccessfully in
an attempt to find the missing Nefyn fisherman.
Back to top
Bu’r tîm allan eto yn chwilio’r traethau am unrhyw olwg
o’r pysgotwr o Nefyn a gollwyd ar y môr ddoe ond ni ddarganfyddwyd unrhyw
arwydd o beth oedd wedi digwydd.
Yn ôl i'r brig.
1915 12.5.08
Report of a craft in trouble between Morfa Nefyn and
Nefyn. Porthdinllaen lifeboat was
called out and assisted the craft, which was a 10ft. rigid inflatable boat with
one person on board. It was found that
the engine of the RIB had broken down
Back to top
Clywyd fod cwch mewn trafferthion rhwng Morfa Nefyn a
Nefyn. Galwyd Bad Achub Porthdinllaen
allan ac aethant i roddi cymorth i’r cwch, sef un rwber 10 troedfedd o hyd gyda
un dyn ynddo. ‘Roedd peiriant y cwch
wedi torri i lawr.
Yn ôl i'r brig.
1515 14.5.08
Called out to investigate an object in the sea 200 metres
off Trefor Pier, bearing in mind that a fisherman was still missing. It turned out to be a large mass of
seaweed.
Back to top
Galwyd arnom i ymchwilio i adroddiad for rhywbeth i’w weld
yn y môr tua 200 llath oddi wrth Pier Trefor, gan gofio fod pysgotwr yn dal ar
goll. Ond canfuwyd mai tomen o wymon
oedd yno.
Yn ôl i'r brig.
1415 21.5.08
Investigated a report of an object washed up onto the beach
at Pistyll. It was found to be a tangle
of debris including seaweed and assorted driftwood.
Back to top
Aethom i draeth Pistyll yn dilyn adroddiad fod gwrthrych
wedi ei olchi i’r traeth. Gwelwyd mai
tomen o wymon a broc môr oedd yno.
Yn ôl i'r brig.
1515 31.5.08
Following a report that the occupants of a pleasure boat had
seen a person drifting face down in the sea off Trefor, Porthdinllaen Lifeboat
was launched and recovered the body of a man who was taken to the lifeboat
station. Members of our team assisted
police at the lifeboat station. It was
suspected and later confirmed that the body was that of the fisherman missing
from his boat a month ago.
Back to top
Yn dilyn adroddiad fod pobl mewn cwch pleser wedi gweld
rhywun a’i wyneb i lawr yn y môr yng nghyffiniau Trefor, lansiwyd Bad Achub
Porthdinllaen a daethant a chorff dyn i orsaf y bad achub. Aethom rhai o’r tîm yno i gynorthwyo’r
heddlu. Cadarnhawyd yn hwyrach mai’r
pysgotwr a oedd ar goll ers mîs oedd y corff.
Yn ôl i'r brig.
0930 1.6.08
Investigated a report that a surfboard was floating in the
surf off Abergeirch. The boarding boat
from Porthdinllaen lifeboat station was launched and recovered the board. No reports of missing persons were
received.
Back to top
Aethom i Abergeirch yn dilyn adroddiad fod bwrdd syrffio
i’w weld yn y tonnau yno. Daeth cwch
byrddio’r bad achub yno i gael gafael ar y bwrdd ond ni chafwyd unrhyw
adroddiad fod rhywun ar goll.
Yn ôl i'r brig.
1840 13.6.08
A report was received of an upturned boat floating about a
quarter of a mile off Trefor.
Porthdinllaen lifeboat was launched and recovered the boat to Trefor
beach.
After enquiries we established
that it was a sailing dinghy that had been reported missing from a beach in
Anglesey. The owner was informed and
later collected the boat.
Back to top
Gwelodd aelod o’r cyhoedd gwch a’i ffen i lawr yn y môr
tua chwarter milltir o Trefor. Lansiwyd
Bad Achub Porthdinllaen ac aethant a’r cwch i’r traeth gerllaw.
Yn dilyn ymchwiliadau pellach fe glywsom fod perchennog y cwch
hwylio wedi gwneud adroddiad yn gynharach fod ei gwch ar goll oddi ar draeth yn
Sir Fôn. Daeth i Drefor i’w nhôl yn
nês ymlaen.
Yn ôl i'r brig.
2046 15.6.08
A report was received of persons cut off by the tide at
Pistyll. Together with Porthdinllaen
Lifeboat we commenced a search and two persons were located on rocks off Carreg
y Llam. They were brought aboard the
lifeboat and taken to the lifeboat station. They had been fishing and did not
realize that the tide was cutting them off from the shore. As they were well we picked them up from the
lifeboat station and returned them to their vehicle at Pistyll.
Back to top
Cawsom adroddiad fod y llanw wedi rhwystro pobl rhag
dychwel i’r lan oddiar graig ger traeth Pistyll. Ynghyd â Bad Achub Porthdinllaen aethom yno i ddechrau chwilio
amdanynt a gwelwyd dyn a dynes ar graig ger Carreg y Llam. Codwyd hwy gan y bad achub a aeth a hwy i
Borthdinllaen. Wedi bod yn pysgota
oedd y ddau a heb sylweddoli for y llanw’n codi a’i fod am eu rhwystro rhag
dychwelyd i’r lan. Gan eu bod yn ddianaf aethom ni a hwy yn ôl i’w modur ym Mhistyll.
Yn ôl i'r brig.
1352 24.6.08
The full team was called out to Nefyn Point where we found a
middle aged man who had decided to scale the cliff from the Nefyn side by the
breakwater and was now stuck near the top.
He was clinging onto the cliff and was unable to move up or down. We set up our new rescue equipment on the
cliff top and were able to reach the man who was then winched with our cliff
man to safety on the cliff top. He was none the worse physically but was rather
embarrassed as he then had to return to his wife who was watching him from the
beach having tried to discourage him from climbing the cliff in the first
place, and it was her who had dialled ‘999’ to initiate the rescue.
Back to top
Galwyd y tîm cyfan i Drwyn Nefyn lle gwelsom fod yno ddyn
cannol oed a oedd wedi ceisio dringo gallt y môr o ochr Nefyn ger y
forwal. Yn anffodus ‘roedd bron wedi
cyrraedd pen yr allt pan ddaeth i fan serth lle na fedrai ddringo i fyny nac i
lawr, ac yno ‘roedd yn gafael nerth ei fywyd rhag disgyn. Cawsom ddefnyddio ein offer achub newydd
(am y tro cyntaf) i fynd at y dyn, ei ddiogelu gyda rhaffau a’i dynnu ef a’i
achubwr yn ddiogel i ben yr allt. Nid
oedd fymryn gwaeth yn gorfforol ond nid oedd yn edrych ymlaen am ddychwelyd i’w
wraig oedd ar y traeth yn gwylio’r holl ddigwyddiad. ‘Roedd hi wedi ceisio ei berswadio i beidio a bod mor wirion a
dringo’r allt yn y lle cyntaf, a hi oedd wedi gorfod deialu ‘999’ pan aeth ef i
drafferthion!
Yn ôl i'r brig.
1325 6.7.08
Called out to speak to the riders of jet skis who were
reported to be making a nuisance of themselves near Nefyn Point.
Back to top
Galwyd ni allan I gael gair gyda dreifwyr sawl jetsgi oedd
yn achosi trafferthion i bobl eraill ger Trwyn Nefyn.
Yn ôl i'r brig.
0835 16.7.08
We received a report originating from a dog walker of a pile
of clothing on the sand at Nefyn beach and no sign of their owner. On investigation we were approached by a
bemused local man in his bathing costume walking from the surf who explained
that he had been swimming as part of his training for the Menai Straits
Race. He was the owner of the clothing
on the beach and was safe and well.
Back to top
Cafwyd galwad oddi wrth ddyn yn cerdded ei gi fod pentwr o
ddillad ar y tywod ar draeth Nefyn.
Aethom yno a daeth dyn lleol atom o gyfeiriad y môr mewn gwisg nofio yn
egluro mai ef oedd perchennog y dillad a’i fod wedi bod yn nofio fel rhan o
ymarfer ar gyfer Râs Culfor Menai.
‘Roedd yn hollol iach ac yn methu gwybod beth oedd yr holl ffys!
Yn ôl i'r brig.
20.40 5.8.08
Report of a craft drifting
half a mile off Porthdinllaen Point.
The boat was located and Porthdinllaen Lifeboat returned the boat to her
moorings. The elderly man on board the boat was well but his engine would not
start. He had no flares, radio or phone
on board.
Back to top
Galwad fod cwch yn drifftio tua hanner milltir o Drwyn
Porthdinllaen. Gwelsom y cwch ac aeth
Bad Achub Porthdinllaen ati a’i thynnu yn ôl i’w hangorfan yn y bae. ‘Roedd dyn mewn oed arni ac aeth i
drafferthion pan wrthododd peiriant y cwch gychwyn. Nid oedd ganddo un fflêr, radio na ffôn gydag ef.
Yn ôl i'r brig.
1319 21.8.08
Called to a car stuck
on the beach at Nefyn. Apparently the
vehicle, which contained only the driver, had slid down the cliff whilst the
driver was making a three point turn near the beach cafe. The driver did not suffer any injuries and
the vehicle was recovered from the beach by a tractor.
Back to top
Galwyd ni i draeth Nefyn lle ‘roedd cerbyd wedi llithro
dros yr ochr oddiar y ffordd ac i lawr gallt y môr i’r tywod pan wnaeth y
gyrrwr gamgymeriad wrth droi’r cerbyd ger y caffi. Yn ffodus iawn ni chafodd y gyrrwr unrhyw anaf a defnyddiwyd
tractor I dynny’r cerbyd o’r traeth.
Yn ôl i'r brig.
0905 31.8.08
A white boat tender was seen drifting unoccupied off
Porthdinllaen Point. It was recovered
by Porthdinllaen Lifeboat and taken to the lifeboat station. We made enquiries in the area but could not
establish the owner of the tender.
Back to top
Gwelwyd cwch bach gwyn y drifftio a neb arno ger Trwyn
Porthdinllaen. Aeth y bad achub allan
a dod a’r cwch i’r lan. Er i ni wneud
ymchwiliadau yn lleol ni ddarganfuwyd pwy oedd perchen y cwch ac ni chafwyd
adroddiad fod neb ar goll.
Yn ôl i'r brig.
1455 2.9.08
A kayak was reported to be in trouble in Porthdinllaen
Bay. The kayak was recovered and the
occupants were found to be safe and well.Back to top
Derbyniwyd adroddiad fod cayac mewn trafferthion ym Mae
Porthdinllaen. Aeth criw’r bad achub
ati a’i dychwelyd i’r lan ynghyd a’r perchennog a oedd yn iach a di-anaf.
Yn ôl i'r brig.
1439 29.12.09
Called
out to investigate a report that there were canoeists missing between
Porthdinllaen and Trefor. It was established later that the
canoeists were safe ashore at Trefor and did not require any medical
assistance.
Back to top
Galwyd
ni allan yn dilyn adroddiad fod canŵyr ar goll rhywle rhwng
Porthdinllaen a Threfor. Cawsom ar wybod ychydig yn hwyrach eu
bod wedi glanio'n ddiogel yn Nhrefor.
Yn ôl i'r brig.