Rescue vehicle at Pistyll

About Us
Amdanom

Our location
Ein lleoliad

Team members
Aelodau'r tîm


Rescue equipment
Offer achub

About HM Coastguard
Mwy am Wylwyr y Glannau


Recent callouts
Galwadau diweddar

News
Newyddion


Photo gallery
Oriel darluniau

Contact us
Cysylltwch â ni

Links
Cysylltiadau

Site Map
Cynllun o'r safle

  • Please note that this is not an official website.
  • Nodir yn garedig nad yw'r safle yma yn un swyddogol.


Porthdinllaen Coastguard banner


Incidents   -   Galwadau

2009


To choose a different year click here   -   I ddewis blwyddyn wahanol cliciwch yma


22.2.09    1045 hrs

Ambulance control reported that a woman and child had been injured in a fall on Nefyn Beach.   On arrival there we found that they had been treated by an ambulance crew at the scene.
Back to top

Cafwyd adroddiad oddiwrth y gwasaneth ambiwlans for dynes a phlentyn wedi cael anafiadau wrth ddisgyn ar draeth Nefyn.   Wedi i ni gyrraedd yno gwelwyd for criw ambiwlanswedi trin y cleifion ar y traeth.
Yn ôl i'r brig.


11.3.09    1448 hrs

We were sent to a vessel between Porth Oer and Porth Iago following a report of a vessel with engine problems.   We located the 22 foot yacht off Porth Iago and established radio contact with a local fishing boat that had gone to the yacht's assistance.   As Porthdinllaen lifeboat was on the way and it was not an immediate life threatening situation we kept observations from the shore.   On arrival the lifeboat took the yacht in tow to Porthdinllaen where she was secured to a lifeboat mooring buoy and the person on board brought ashore.  He was requesting an ambulance as he was complaining of an injured shoulder but when the ambulance arrived and examined him it was found that he did not warrant hospital attention.
On speaking to the owner we ascertained that he was sailing the yacht from Abersoch to Porthdinllaen and the engine had cut out after going through the Bardsey Sound.  He had bought the yacht on an internet auction site some days before and had already been rescued by another lifeboat.   Bearing in mind that Bardsey Sound is one of the most dangerous stretches of water in the UK we ascertained that the owner had no local knowledge, no charts of the area, no lifejacket, no waterproof clothing,  no flares, no spare engine, a handheld radio for which he had charged only one battery out of the two he possessed, and was towing a small inflatable tender of the flimsy type played in by children on a beach and for which had no oars.
He was stongly advised regarding his future sailing intentions.

Back to top

Porthdinllaen Lifeboat approaching casualty                  Securing casualty to lifeboat mooring at Porthdinllaen

Cawsom ein gyrru i edrych am gwch rhwng Porth Oer a Porth Iago gan fod adroddiad wedi dod i law fod ganddi drafferthion gyda'i modur.   Gwelsom yr iot 22 troedfedd o hyd yn agos i Borth Iago a gallwyd sefydlu cysylltiad ar y radio gyda cwch pysgota lleol oedd wedi mynd i roi cymorth iddi.   Nid oedd y sefyllfa'n un lle 'roedd perygl colli bywyd y munud hwnnw felly cadwyd golwg ar yr iot o'r tir mawr nes i fad achub Porthdinllaen gyrraedd.   Tynnwyd yr iot i Borthdinllaen a'i chlymu i fwi yno cyn dod a'r perchennog i'r lan.   'Roedd wedi gofyn am ambiwlans am ei fod wedi anafu ei ysgwydd ond ar ôl i griw'r ambiwlans ei archwilio penderfynwyd nad oedd angen triniaeth mewn ysbytty.
Aethom i siarad a'r perchennog a dywedodd ei fod yn hwylio o Abersoch i Borthdinllaen a bod ei injan wedi torri i lawr ar ôl dod drwy Swnt Enlli.   'Roedd wedi pryny'r iot mewn ocsiwn ar y rhyngrwyd ychydig o ddyddiau cynt ac 'roedd eisioes wedi gorfod gofyn am gymorth gan fad achub.   Gan gofio fod Swnt Enlli yn un o'r lleoedd mwyaf perygl yn y wlad cawsom wybod ganddo nad oedd yn gyfarwydd a'r ardal, a'i fod heb unrhyw siart, na siaced bywyd, dillad glaw, fflerau, nac injan wrth gefn.  'Roedd ganddo radio llaw yn unig, ac wedi gwefru ond un batri allan o'r ddau oedd ar ei chyfer.   Tu ôl i'r iot 'roedd o'n tynnu cwch plastig chwythiedig o'r math y mae plant yn ei ddefnyddio ar lan y môr, a 'doedd ganddo ddim rhwyfau ar ei chyfer.  
'Rhoddwyd cyngor cryf iddo ynglyn a'i hwylio yn y dyfodol.

Yn ôl i'r brig.


7.4.09    0003 hrs

Report of an apparently suicidal male at Nefyn Point.  On reaching the Point the only person we could see was a man standing on the breakwater far below. We then received further information by radio that the suicidal male was on the breakwater so we quickly made our way there.  On reaching the breakwater we found that the man had gone then we heard cries for help just as Porthdinllaen lifeboat rounded the point.  The man was retrieved from the sea by the lifeboat at some risk to themselves in shallow water in the dark and he was subsequently taken to hospital.  The search was continued at some length as there was some doubt as to whether another person was also involved.
Back to top

Cawsom adroddiad for dyn am geisio lladd ei hun ar Drwyn Nefyn.  Wedi cyrraedd y Trwyn yr unig berson y gallem ei weld oedd dyn yn sefyll ar y forwal yn bell o danom.   Yna cawsom wybodaeth ar y radio mai'r dyn ar y forwal oedd yr un yr oeddem yn chwilio amdano ac aethom yn syth yno.  Erbyn i ni gyrraedd 'roedd y dyn wedi diflannu ond fel yr oedd Bad Achub Porthdinllaen yn rowndio'r trwyn i'n cefnogi clywsom lais o gyfeiriad y mor yn gwaeddi am gymorth.   Mentrodd y bad achub i ddwr bas yn y tywyllwch i godi'r dyn ac aethpwyd ac ef wedyn i'r ysbytty mewn ambiwlans.   Parodd y chwilio am beth amser wedyn gan nad oedd sicrwydd mai un person yn unig oedd yn y dwr.
Yn ôl i'r brig


24.5.09    1345 hrs

Our members were on duty at the Porthdinllaen Lifeboat open day when they were informed by a member of the public that a man was unwell at Porthdinllaen Point.   They went there and  found that the man was in severe pain and could not move because of back spasms.   They requested a helicopter because of the location and the man was airlifted to hospital after lifeboat crew members had assisted with pain relieving gas.
Back to top


'Roedd aelodau o'r tîm ar ddyletswydd ar ddiwrnod agored Bad Achub Porthdinllaen pan ddaeth rhywun atynt i ddweud fod dyn yn wael ar Drwyn Porthdinllaen.   Aethant yno a darganfod dyn mewn poen sylweddol ac yn methu symud oherwydd  sbasm yn ei gefn.  Gofynnwyd am hofrennydd oherwydd y lleoliad ac aeth honno a'r claf i'r ysbytty ar ôl iddo gael nwy gan rai o griw'r bad achub i leddfu'r boen.

Yn ôl i'r brig


30.5.09    1611 hrs

Called out to a broken down craft close to shore between Trefor and Clynnog with the lifeboat also proceeding but recalled on receiving information that the craft had obtained fuel from another party and had left the scence.
Back to top

Galwyd ni a'r bad achub allan i edrych am gwch oedd wedi torri i lawr yn agos i'r lan rhywle rhwng Trefor a Clynnog ond 'roedd y cwch wedi cael petrol gan rhywun arall ac wedi gadael y fan.
Yn ôl i'r brig

4.6.09    1446 hrs

Report received from amublance control that a person had fallen over cliffs at Nefyn Point and that the helicopter air ambulance was attending. The RAF helicopter was also tasked as the air ambulance has no winching capability.   We deployed ropes and cliff equipment but this was not required as the RAF helicopter was able to winch the man aboard and take him to Ysbytty Gwynedd with broken limbs.
Back to top

Cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth ambiwlance fod dyn wedi disgyn dros greigiau ar Drwyn Nefyn a bod ambiwlans awyr ar y ffordd yno.   Galwyd hofrennydd o'r Fali hefyd gan nad oes wins ar yr ambiwlans awyr.   Gosodwyd rhaffau ac offer achub yn ei le ganddom ni ond nid oedd ei angen oherwydd fod hofrennydd yr awyrlu wedi medru winsio'r claf yn uniongyrchol o'r lle yr oedd yn gorwedd a'i gludo'n syth i Ysbytty Gwynedd lle cafodd driniaeth am esgyrn oedd wedi eu torri.
Yn ôl i'r brig

6.6.09    2312 hrs

A member of the public in Gyrn Goch reported having sighted what may have been a flare in the direction of Trefor.  We attended and searched the area and called out Porthdinllaen Lifeboat to check an object we saw off Trefor Pier in the dark but which turned out to be a  marker buoy with reflective markings.  Nothing further was seen nor anyone reported misssing.
Back to top

Derbyniwyd adroddiad oddiwrth aelod o'r cyhoedd yn Gyrn Goch eu bod wedi gweld rhywbeth tebyg i fflêr goch o gyfeiriad Trefor.  Aethom i chwilio o'r lan a bu rhaid galw ar gymorth Bad Achub Porthdinllaen pan welsom rhywbeth yn y dwr allan o bier Trefor ond bwi oedd yno gyda marciau adlewyrchol.  Ni welwyd unrhyw beth pellach ac ni dderbyniwyd adroddiad fod unrhyw un ar goll.
Yn ôl i'r brig

10.7.09    2112 hrs

Received a report that an 11 foot dory was in trouble and was drifting off Ty Coch.   Porthdinllaen Lifeboat was launched and we carried out observations from the shore.  The craft was located about a mile to one and a half miles off Porthdinllaen Point with two persons on board, only one wearing a lifejacket and without flares or a radio. Their engine had broken down and they were towed back to shore by the lifeboat where they were given suitable advice.
Back to top

Derbyniwyd adroddiad fod cwch 11 troedfedd mewn trafferthion ac yn drifftio allan o Dy Coch.  Lansiwyd Bad Achub Porthdinllaen tra 'roeddem ninnau'n gwylio o'r lan.   Darganfyddwyd y cwch rhwng milltir a milltir a hanner o'r lan gyda dau berson ynddi, dim ond un yn gwisgo siaced achub a heb fod ganddynt ddim fflêr na radio gyda hwy.   'Roedd y modur wedi torri i lawr ac fe'i tynnwyd yn ôl i'r lan gan y bad achub a rhoddwyd cyngor addas iddynt.
Yn ôl i'r brig


x


HMCG roundel

Back to top   -   Yn ôl i'r brig